2015 Rhif 1596 (Cy. 195)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan adran 108(2) o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy Orchymyn, y meysydd dysgu ar gyfer y cyfnod sylfaen a’r deilliannau dymunol, y rhaglenni astudio a’r trefniadau asesu y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer pob un o’r meysydd dysgu hynny.

Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 (“Gorchymyn 2014”) yn rhoi effaith gyfreithiol i’r Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru (“y ddogfen fframwaith”) sy’n nodi meysydd dysgu’r cyfnod sylfaen a’r deilliannau dymunol a’r rhaglenni addysg ar gyfer pob un o’r meysydd dysgu hynny.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dirymu’r trefniadau asesu diwedd y cyfnod sylfaen presennol a nodir yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011. Mae trefniadau asesu diwedd y cyfnod sylfaen bellach yn Rhannau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwn. Mae erthygl 3 yn cynnwys y darpariaethau dehongli ar gyfer y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2014 er mwyn rhoi diffiniad newydd yn lle’r hen ddiffiniad o’r ddogfen fframwaith. Mae’r ddogfen fframwaith wedi ei diwygio i adlewyrchu newidiadau i’r rhaglenni addysg a’r deilliannau dymunol ac effaith y diwygiad hwn yw y bydd Gorchymyn 2014 yn rhoi effaith gyfreithiol i’r ddogfen fframwaith ddiwygiedig.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn nodi’r trefniadau asesu sy’n rhaid i addysgwr eu gweithredu mewn perthynas â phob disgybl ym mlwyddyn derbyn y cyfnod sylfaen. Mae erthygl 5 hefyd yn nodi diben y cyfryw asesiadau.

Mae erthygl 6 yn rhoi dyletswydd ar y pennaeth i gwblhau cofnod cyrhaeddiad o’r asesiad.

Mae erthygl 7 yn darparu bod yn rhaid cynnal yr asesiad cyntaf o fewn 6 wythnos i’r tro cyntaf y bydd plentyn yn dechrau mynychu fel disgybl mewn dosbarth derbyn mewn ysgol a gynhelir neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny os oes rhesymau eithriadol yn golygu na ellir ei gynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn yn nodi’r trefniadau asesu y mae’n rhaid i addysgwr eu gweithredu mewn perthynas â phob disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen. Mae erthygl 8 hefyd yn nodi diben y cyfryw asesiadau.

Mae erthygl 9 yn rhoi dyletswydd ar y pennaeth i gwblhau cofnod cyrhaeddiad o’r asesiad.

Mae erthygl 10 yn darparu bod yn rhaid cynnal yr asesiad diwedd cyfnod o fewn 20 diwrnod gwaith i ddiwedd tymor yr haf neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny os oes rhesymau eithriadol yn golygu na ellir ei gynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan Gangen Blynyddoedd Cynnar Is-adran Cwricwlwm yr Adran Addysg a Sgiliau.

 


2015 Rhif 1596 (Cy. 195)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015

Gwnaed                                     5 Awst 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       10 Awst 2015

Yn dod i rym                              1 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 108(2), (3) a (5) a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 ac mae’n dod i rym ar 1 Medi 2015.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2. Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011([2]) wedi ei ddirymu.

Dehongli

3. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “addysgwr” (“practitioner”) yw unrhyw berson sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen mewn lleoliad cyfnod sylfaen;

ystyr “dogfen fframwaith” (“framework document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Awst 2015 o’r enw “Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen”([3]);

ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw dosbarth lle y darperir addysg sy’n addas at ddibenion disgyblion 5 oed ac unrhyw ddisgyblion dan neu dros yr oedran hwnnw y mae’n hwylus i’w haddysgu gyda disgyblion o’r oedran hwnnw;

ystyr “lefel cyrhaeddiad” (“level of attainment”) yw’r lefelau cyrhaeddiad a nodir yn y llawlyfr proffil, sef—

(a)     gweithio tuag at efydd;

(b)     efydd;

(c)     arian;

(d)     aur;

(e)     deilliant 1;

(f)      deilliant 2;

(g)     deilliant 3;

(h)     deilliant 4;

(i)      deilliant 5; a

(j)      deilliant 6;

ystyr “llawlyfr proffil” (“profile handbook”) yw’r ddogfen o’r enw “Llawlyfr Proffil y Cyfnod Sylfaen” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Awst 2015([4]);

ystyr “lleoliad cyfnod sylfaen” (“foundation phase setting”) yw ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

ystyr “meysydd dysgu asesiad diwedd cyfnod” (“end of phase assessment areas of learning”) yw—

(a)     sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu;

(b)     datblygiad mathemategol; ac

(c)     datblygiad personol a chymdeithasol a lles ac amrywiaeth ddiwylliannol;

ystyr “meysydd dysgu asesiad sylfaenol” (“baseline assessment areas of learning”) yw—

(a)     sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu;

(b)     datblygiad mathemategol;

(c)     datblygiad personol a chymdeithasol a lles ac amrywiaeth ddiwylliannol; a

(d)     datblygiad corfforol;

ystyr “sgiliau cryno a llawn” (“compact and full skills”) yw’r sgiliau hynny a nodir yn y tablau ar y tudalennau hynny o’r llawlyfr proffil o dan y pennawd “cryno a llawn” mewn cysylltiad â’r meysydd dysgu;

ystyr “sgiliau llawn yn unig” (“full only skills”)yw’r sgiliau hynny a nodir yn y tablau ar y tudalennau hynny o’r llawlyfr proffil o dan y pennawd “llawn yn unig” mewn cysylltiad â’r meysydd dysgu.

RHAN 2

Y Cyfnod Sylfaen: Y Cwricwlwm Cenedlaethol

Diwygiad i Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014

4. Yn erthygl 1(2) o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014([5])) rhodder “Awst 2015 o’r enw “Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen”” yn lle “Ionawr 2008 o’r enw “Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru””.

RHAN 3

Asesiad sylfaenol yn y cyfnod sylfaen

Asesiad sylfaenol

5.(1)(1) Rhaid i bennaeth lleoliad cyfnod sylfaen wneud trefniadau i addysgwr gynnal asesiad mewn perthynas â phob disgybl mewn dosbarth derbyn yn unol â’r llawlyfr proffil.

(2) Diben yr asesiad yw pennu lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu asesiad sylfaenol mewn perthynas â’r sgiliau cryno a llawn.

(3) Mae’r asesiad i’w seilio ar arsylwadau’r addysgwr o’r disgybl sy’n cael ei asesu.

Cofnod cyrhaeddiad

6.(1)(1) Rhaid i’r addysgwr a gynhaliodd yr asesiad wneud cofnod o lefel cyrhaeddiad pob disgybl.

(2) Rhaid i’r cofnod cyrhaeddiad gael ei wneud yn unol â’r llawlyfr proffil.

(3) Rhaid i’r cofnod cyrhaeddiad gynnwys canlyniadau’r asesiad a gynhaliwyd yn unol ag erthygl 5.

Amseru’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad

7. Rhaid i’r asesiad gael ei gwblhau a’r cofnod cyrhaeddiad gael ei wneud—

(a)     o fewn 6 wythnos i’r tro cyntaf y bydd y plentyn yn mynychu dosbarth derbyn fel disgybl; neu

(b)     cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, os na ellir cwblhau’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad o fewn y cyfnod a ddiffinnir ym mharagraff (a) mewn amgylchiadau eithriadol ac am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y pennaeth.

RHAN 4

Asesu diwedd cyfnod yn y cyfnod sylfaen

Asesu diwedd cyfnod

8.(1)(1) Rhaid i bennaeth lleoliad cyfnod sylfaen wneud trefniadau i addysgwr gynnal asesiad mewn perthynas â phob disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.

(2) Diben yr asesiad yw pennu lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu asesiad diwedd cyfnod.

(3) Mae’r asesiad i’w seilio ar arsylwadau’r addysgwr o’r disgybl sy’n cael ei asesu.

Cofnod cyrhaeddiad

9.(1)(1) Rhaid i’r addysgwr a gynhaliodd yr asesiad wneud cofnod o lefel cyrhaeddiad pob disgybl.

(2) Rhaid i’r cofnod cyrhaeddiad gynnwys canlyniadau’r asesiad a gynhaliwyd yn unol ag erthygl 8.

Amseru’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad

10. Rhaid i’r asesiad gael ei gwblhau a’r cofnod cyrhaeddiad gael ei wneud—

(a)     heb fod hwyrach nag 20 diwrnod gwaith cyn diwedd tymor yr haf; neu

(b)     cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, os na ellir cwblhau’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad o fewn y cyfnod a ddiffinnir ym mharagraff (a) mewn amgylchiadau eithriadol ac am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y pennaeth.

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Awst 2015

 



([1])           2002 p. 32. Diwygiwyd is-adran (2) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(a) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5).  Diwygiwyd is-adran (3) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(b) o Fesur Addysg (Cymru) 2009. Mewnosodwyd cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn adran 108 a 210 gan adran 47 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1), a pharagraffau 11 a 15 o’r Atodlen iddo.

([2])           O.S. 2011/1948 (Cy. 214).

([3])           Rhif ISBN 9781473442184.

([4])           Rhif ISBN 9781473442009.

([5])           O.S. 2014/1996 (Cy. 198).